Cyfarfodydd


Cynhelir ein cyfarfodydd bob chwech wythnos, yn Neuadd Lisburne, Llanafan, ac Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn bob yn ail. Mae'r cyfarfodydd yn agored i'r cyhoedd ond gofynnir yn garedig ichi gysylltu gyda'r Clerc neu'r Cadeirydd ymlaen llaw os hoffech annerch y cyfarfod. Bydd croeso arbennig i bawb yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhelir fel arfer ym mis Mai a lle bydd digon o gyfle i ofyn cwestiynau o'r llawr.

Cymuned Trawsgoed

Cymuned wledig, wasgaredig yng ngogledd Ceredigion yw Trawsgoed, rai milltiroedd i’r dwyrain-dde-ddwyrain o Aberystwyth, ar lan ogleddol Afon Ystwyth. Mae’n ffinio â chymunedau Llanfarian, Llanilar, Ystrad Meurig, Ysbyty Ystwyth, Pontarfynach a Melindwr. Creuwyd Cyngor Cymuned Trawsgoed, sydd â 10 Cynghorydd, yn y 1980au drwy uno hen gynghorau bro Llanafan a Llanfihangel-y-Creuddyn, sydd bellach yn wardiau o fewn Cyngor Trawsgoed. Mae’n cynnwys pentrefi Llanafan a Llanfihangel-y-Creuddyn, Abermagwr, Cnwch Coch, a’r Gors/New Cross, a chymunedau bach gwasgaredig megis Trawsgoed a Brynafan. Amcangyfrifir bod bron i fil o bobl (gan gynnwys plant) yn byw yng nghymuned Trawsgoed erbyn hyn, gyda ward Llanfihangel â’r boblogaeth fwyaf. Chwe chynghorydd sydd yn cynrychioli Llanfihangel felly, gyda phedwar o ward Llanafan.

Mae hanes hir i’r ardal, sydd ag olion archeolegol pwysig. Lle saif plas y Trawsgoed heddiw bu caer Rufeinig ac yn 2009 daethpwyd o hyd i fila Rufeinig yn Abermagwr, yn agos i fferm o’r Oes Haearn. Yn y 19eg ganrif daeth y gwaith mwyn yn ddiwydiant pwysig ac mae ei olion i’w gweld mewn sawl man, gan gynnwys hen bwerdy Pont Ceunant.

Wedi i ystâd Trawsgoed a’r hen ddiwydiant plwm ddirwyn i ben yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, y Comisiwn Coedwigaeth a sefydliad ymchwil amaethyddol blaengar Trawsgoed fu’r prif gyflogwyr am rai degawdau ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Pan gaeodd Trawsgoed a’r swyddfeydd coedwigaeth rai blynyddoedd yn ôl collwyd llawer o swyddi. Ond mae cyfran o’r trigolion yn dal i weithio ym meysydd amaeth, coedwigaeth a diwydiannau cysylltiol, tra bod eraill yn teithio bob dydd i weithio yn Aberystwyth, a rhai yn gweithio o’u cartrefi er gwaethaf diffygion y gwasanaethau band-eang a ffôn. Ar hyn y bryd mae Cyngor Trawsgoed yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau gwelliant yn y gwasanaethau hyn, ac yn hyderus o gael y maen i'r wal yn y pen draw.

Yr Iaith Gymraeg yn yr ardal

Bu llawer o newid yn ardal Trawsgoed ers y 1980au. Erbyn Cyfrifiad 2011, allan o 962 o drigolion dros 3 oed, roedd 57.2% yn medru’r Gymraeg, o gymharu â 59.2% yn 2001. Gwelwyd gostyngiad bach, o 52.6% i 51.5%, ymhlith y rhai rhwng 16 a 64 oed, a gostyngiad o 58.6% i 48.6% ymhlith y rhai dros 65 oed – gan adlewyrchu, mae’n debyg, nifer y di-Gymraeg sy’n dod yma i ymddeol. Ond cafwyd cynnydd o 85.2% i 87.9% ymhlith y plant rhwng 3 a 15 oed, ac i’r ddwy ysgol fach, Llanafan a Llanfihangel-y-Creuddyn ac i ymdrechion diflino athrawon a chefnogaeth rhieni y bu’r diolch am hynny. Ergyd fawr fu penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i gau Ysgol Llanafan yn ystod haf 2014, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad y gymuned gyfan. Heddiw Llanfihangel yw’r unig ysgol o fewn cymuned Trawsgoed.

Yr Iaith Gymraeg a Chyngor Trawsgoed

Mae pob un o’r Cynghorwyr Cymuned a’r Clerc yn medru’r Gymraeg. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd gysylltu ag unrhyw un ohonynt yn Gymraeg neu Saesneg, ar lafar neu drwy lythyr. Cyhoeddir cofnodion cyfarfodydd yn ddwyieithog ar y we ac adroddiad cryno yn Gymraeg yn Y Ddolen, y papur bro lleol, ac yn y Cambrian News yn ogystal.
Cyfarfodydd

Cynhelir cyfarfod nesaf o Gyngor Bro Trawsgoed ar nos Lun 23ain Hydref 2023 yn Ysgol Gynradd Llanfihangel-y-Creuddyn am 7.30 y.h.
Agenda 23 10 2023

Cyfrifon 2022 2023
Hawl Etholwyr 2023 Cyngor Bro Trawsgoed

Cymorth Ariannol Financial Assistance 2022 2023
Cymorth Ariannol 2022

Tendr Tir Comin 2023
Tendr Llwybrau 2023


Cyfrifon 2021 2022
Hawl Etholwyr Cyfrifon Cyngor Bro Trawsgoed 2021 2022

Cyfrifon 2020 2021
Archwiliad Blynyddol
Ffurflen Flynyddol
Cwblhau Cyfrifon 2020 2021



Agenda Cyfarfodydd Blaenorol
Agenda 26062023
Agenda 15fed Mai 2023
Agenda 20 02 2023
Agenda 09 01 2023
Agenda 05 12 2022
Agenda 07112022
Agenda 17102022
Agenda 05092022
Agenda 31 08 2022
Agenda 25 07 2022
Agenda 27062022
Agenda 10 01 2022
Agenda 13 12 2021
Agenda 18102021
Agenda 06 09 2021
Agenda 27 07 2021




Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration